
CYNLLUN CARLAM FFEITHIOL
CYMRU A GORLLEWIN LLOEGR
Rhaglen ddatblygu er mwyn cyflymu gyrfaoedd cynhyrchwyr di-sgript trwy leoliadau cyflogedig, mewnwelediad i gomisiynu, hyfforddiant a mentora gan gomisiynwyr a gweithwyr y diwydiant
Mae Cynllun Carlam Ffeithiol yn gynllun sydd yn rhoi cynhyrchwyr sefydledig ac uchelgeisiol ar gwrs carlam i greu ennillwyr busnes ar gyfer y cenhedloedd a'r rhanbarthau.
Mae’r cynllun unigryw hwn yn rhoi cyfleoedd rhwydweithio er mwyn codi proffil, yn cynnig sesiynau hyfforddi i ehangu sgiliau, sesiynau mentora gan y diwydiant a chomisiynwyr, er mwyn meithrin hyder y cynhyrchwyr, cynhyrchwyr/cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr cyfresi, uwch gynhyrchwyr a chynhyrchwyr datblygu, gorau. Wrth wraidd y cynllun mae lleoliadau gwaith yn y diwydiant mewn rôl ymestynnol a fydd yn datblygu gyrfa’r unigolyn ac yn cryfhau eu CV.
Mae croeso i bawb sydd â'r profiad perthnasol wneud cais. Ein huchelgais yw creu carfan Cynllun Carlam amrywiol. Rydym eisiau gwella cynrychiolaeth amrywiaeth ethnig, anabledd a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac rydym wedi ehangu'r ystod o brofiad sydd ei angen er mwyn gwneud cais am y cynllun. Ar gyfer cynllun Cymru, nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn orfodol ond bydd dau le yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl sydd â sgiliau cyfathrebu iaith rhagorol, ac sydd wedi ymrwymo i weithio’n ddwyieithog.
​
Mae'r Cynllun Carlam Ffeithiol yn rhedeg yn flynyddol yng Nghymru a Gorllewin Lloegr i sicrhau bod cynhyrchu di-sgript yn parhau i fynd o nerth i nerth.
​
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa o:
-
Hyfforddiant gorau'r diwydiant
-
Lleoliadau gwaith cynhyrchu cyflogedig
-
Mentora gan gomisiynwyr a gweithwyr yn y diwydiant
-
Cipolwg ar brosesau a blaenoriaethau comisiynu
-
Cefnogaeth un-i-un
-
Hyfforddiant gyrfa
-
Cyfle i fod yn rhan o garfan o gynhyrchwyr rhagorol
Gwrandewch ar ambell un sydd wedi bod ar y Cynllun Carlam yn sôn am fod yn rhan o’r cynllun
